Euskara Batua (Basgeg Unedig)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Papur dyddiol Berria (2019)
Silffoedd llyfrau Basgeg mewn siop lyfrau yn ninas Donostia

Mae Euskara Batua (Basgeg Unedig) yn fersiwn o Euskara (yr iaith Fasgeg), wedi'i greu'n bwrpasol er mwyn i siaradwyr yr iaith o wahanol ardaloedd deall ei gilydd yn well ac i'w defnyddio ar gyfer ysgrifennu a darllen. Dyfeisiwyd canllawiau ar gyfer geirfa, gramadeg a sillafu.

Ers y 1970au mae Euskara Batua wedi cael ei ddefnyddio fel elfen bwysig wrth i'r iaith Fasgeg ennill lle yn y system addysg, darlledu, cyhoeddi, busnes a llywodraeth gyda nifer y siaradwyr yn cynyddu. Yn yr 21ain ganrif, mae bron pob testun mewn Basgeg yn cael ei gyhoeddi yn Euskara Batua, hy testunau gweinyddol, gwerslyfrau addysg, cyhoeddiadau cyfryngau, testunau llenyddol, ac ati. [1][2][3][4][5]

Rhaniadau iaith a gwlad

[golygu | golygu cod]

Yn hanesyddol mae Gwlad y Basg wedi'i rhannu rhwng Ffrainc a Sbaen, gyda mynyddoedd mawr y Pyreneau hefyd yn rhannu ardaloedd y wlad. Roedd llawer o siaradwyr Basgeg heb fawr o gysylltiad gyda siaradwyr o ardaloedd eraill a datblygwyd y tafodieithoedd yn dra gwahanol i'w gilydd. Gyda Sbaeneg a Ffrangeg yr unig ieithoedd y system addysg a'r Fasgeg wedi'i gwahardd, prin oedd nifer y Basgwyr oedd y gallu ysgrifennu a darllen yr iaith.

Cafodd Euskara Batua ei ddyfeisio gan gefnogwyr yr iaith ar ddiwedd y 1960au ar ddechrau'r 1970au, cyfnod ar ddiwedd unbennaeth Ffasgaidd Sbaen. Eu gobaith oedd adfywio'r iaith a'i gwneud yn iaith pob maes o fywyd y wlad wrth i'r mesurau gormesol cael eu llacio.

Yn 1979 rhoddwyd peth hunanlywodraeth i ochr deheuol y Wlad gan lywodraeth Sbaen gan warantu statws swyddogol i'r iaith Fasgeg. Sefydlwyd canolfannau i oedolion dysgu'r iaith (Euskaltegi), ysgolion iaith Fasgeg a dechreuwyd i ddefnyddio'r iaith gan awdurdodau lleol a busnesau. Sefydlwyd sianeli teledu EiTB, Radio Euskadi Irratia a phapurau newydd. Ond yng ngogledd Gwlad y Basg ar ochr Ffrainc o'r ffin mae'r iaith parhau i fod heb ei chydnabod yn llawn, gyda Ffrangeg fel yr iaith swyddogol.

Seiliwyd Euskara Batua yn bennaf ar dafodieithoedd yr ardaloedd canolog (Gipuzkoa a Lapurdi). Mae Euskara Batua yn cael ei ddefnyddio erbyn hyn mewn addysg, o'r ysgol elfennol i'r brifysgol, ar y teledu a'r radio, ac yn y mwyafrif o'r holl gynhyrchu ysgrifenedig yn y Fasgeg. Hefyd gan siaradwyr newydd sydd wedi dysgu fel ail iaith, yn enwedig yn y dinasoedd. Tra yng nghefn gwlad mae siaradwyr oedrannus yn aml yn dal wrth y tafodieithoedd naturiol.

Cyfarfod i greu

[golygu | golygu cod]
Aelodau Cyngres Arantzazu
Llawysgrif bachgen a gafodd ei gosbi am siarad Basgeg yn y 1960au: "En la escuela no tengo que hablar vasco" sef 'Wna i ddim siarad Basgeg eto yn yr ysgol', yn Sbaeneg.

Crëwyd Euskara Batua yn y 1970au gan yr Euskaltzaindia (Academi'r Iaith Fasgeg), yn seiliedig yn bennaf ar dafodiaith ganolog y Fasgeg ac ar y traddodiad ysgrifenedig. Ar ôl cael ei ormesu ers canrifoedd gan awdurdodau Sbaen a Ffrainc, ac yn enwedig o dan reolaeth Franco pan gwaharddwyd yr iaith Fasgeg gan arwain at leihad sylweddol yn nifer y siaradwyr, roedd Academi yn teimlo'r angen i greu math unedig o Fasgeg, fel bod gan yr iaith fwy o siawns i fyw.

Cynhaliwyd Cyngres Arantzazu yn 1968 mewn mynachdy, lle gosodwyd y canllawiau sylfaenol ar gyfer geirfa, gramadeg a sillafu. Cymerwyd cam pellach ym 1972 gyda chynnig i sefydlu cyfuniad safonol.

Er i ddadleuon codi ynglŷn â dyfeisio set newydd o reolau iaith safonol (1968-1976) cafodd Euskara Batua ei dderbyn fwyfwy fel iaith safonol y Fasgeg mewn addysgu, y cyfryngau, a gweinyddiaeth (1976 -1983).[6]

Gwrthwynebiad

[golygu | golygu cod]

Mae rhai awduron neu gyfieithwyr Basgeg fel Matías Múgica yn teimlo bod Batua yn gweithio fel pidgin yn unig gyda cholli ansawdd ieithyddol difrifol dros y tafodieithoedd traddodiadol.

Mae Euskara Batua wedi cael ei ddisgrifio fel "iaith artiffisial" gan ei beirniaid. Math o Esperanto wedi'i blastro, ac ar adegau prin ei fod yn ddealladwy i'r ddwy ochr gyda'r tafodieithoedd ar yr eithafion (sef yr un mwyaf gorllewinol neu Bizkaia a'r un mwyaf dwyreiniol neu Zuberoa). Ar ben hynny, mae purwyr Basgaidd (fel Oskillaso a Matías Múgica) wedi dadlau y bydd Euskara Batua yn lladd y Fasgeg hanesyddol a go iawn. Mae eraill yn dadlau bod Euskara Batua wedi diogelu dyfodol iaith sy'n cystadlu â Ffrangeg a Sbaeneg.[7][8]

Seilio ar y dafodiaith ganolig

[golygu | golygu cod]
Tafodieithoedd Basgeg, yn ôl ardal yr 21ain ganrif gan Koldo Zuazo

Yn ôl yr ieithydd Koldo Zuazo y rhesymau dros seilio'r Euskara Batua ar y dafodiaith ganolog Gipuzkoa oedd:[9]

Ieithyddol: mae'r dafodiaith ganolog fel 'croesffordd' i'r iaith. Mae'r dafodiaith fwyaf gorllewinol, Bizkaia, yn anodd ei deall i'r siaradwyr o dafodieithoedd eraill; ac mae'r un peth yn digwydd gyda'r dafodiaith fwyaf dwyreiniol - Zuberoa.

Demograffeg: roedd yr ardal ganolog a'r ardal orllewinol yn 1968 yn dal i fod y parthau lle mae'r rhan fwyaf o siaradwyr Basgeg yn byw.

Cymdeithaseg: ers y 18fed ganrif, mae'r dafodiaith ganolog oedd yn cael ei weld fel y mwyaf o fri.

Economaidd a diwylliannol: Bilbao yn sicr yw'r ddinas Basgaidd bwysicaf, ond nid yw'n siarad Basgeg.

Dywedodd Koldo Zuazo (ysgolhaig a chefnogwr tafodieithoedd Basgeg) "gan ystyried yr holl nodweddion yma, dwi'n meddwl ei bod yn deg ac yn synhwyrol i seilio'r Euskara Batua ar dafodiaith ganolog y Fasgeg, ac yn siŵr - dyna'r rheswm dros y Batua fod mor llwyddiannus".

Manteision Euskara Batua

[golygu | golygu cod]

Yn ôl Koldo Zuazo, mae Euskara Batua wedi'u rhoi chwe phrif fantais i'r iaith Fasgeg:

  • Mae siaradwyr Basgeg yn gallu deall ei gilydd yn hawdd pan maen nhw'n defnyddio Euskara Batua. Mae problemau deall yn codi wrth ddefnyddio tafodieithoedd traddodiadol, yn arbennig rhwng siaradwyr tafodieithoedd o ardaloedd sy'n bell oddi wrth ei gilydd.
  • Cyn creu Euskara Batua, roedd rhaid i siaradwyr Basgeg defnyddio Sbaeneg neu Ffrangeg i drafod pynciau gwaith modern.
  • Mae Euskara Batua wedi helpu mwy o oedolion nag erioed yn gallu dysgu'r iaith Fasgeg.
  • Mae maint yr ardal yr iaith Fasgeg wedi bod yn lleihau ers canrifoedd. Mae hen fapiau yn dangos bod Basgeg gynt yn cael ei siarad mewn ardal llawer fwy na heddiw. Fodd bynnag, nawr, diolch i'r Euskaltegi a'r Ikastola, ysgolion cynradd, uwchradd a phrifysgolion sy'n dysgu Euskara Batua, mae'r ardal sy'n siarad Basgeg yn ehangu o'r newydd, gan fod siaradwyr Basgeg bellach i'w cael mewn pob rhan o Wlad y Basg a thu hwnt.
  • Mae Euskara Batua wedi rhoi bri i Fasgeg oherwydd mae'n bellach gallu cael ei ddefnyddio mewn lefel uchel o gymdeithas.
  • Mae siaradwyr Basgeg yn fwy unedig: ers i Euskara Batua gael ei greu, mae ffiniau mewnol yr iaith hefyd wedi'u torri, ac mae'r teimlad o fod yn gymuned yn fwy byw. Gyda chymuned siaradwyr cryfach, mae'r iaith Fasgeg yn dod yn gryfach.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Hualde, José Ignacio; Zuazo, Koldo (2007). "The standardization of the Basque language" (yn en). Language Problems and Language Planning 31 (2): 142–168. doi:10.1075/lplp.31.2.04hua. ISSN 0272-2690. https://www.researchgate.net/publication/233647140.
  2. "EITB Euskal Irrati Telebista". EITB Euskal Irrati Telebista (yn Basgeg). Cyrchwyd 2021-04-14.
  3. "ARGIA Kazetaritza independientea. Txikitik eragiten". Argia. Cyrchwyd 2021-04-14.
  4. Berria.eus. "Berria - Euskal Herriko euskarazko egunkaria". Berria (yn Basgeg). Cyrchwyd 2021-04-14.
  5. "Iparraldeko Hitza.eus" (yn Basgeg). Cyrchwyd 2021-04-14.
  6. Trask, R. L. (1997). The history of Basque. London: Routledge. ISBN 0-415-13116-2. OCLC 34514667.
  7. "Euskeranto" is portmanteau of Euskera and Esperanto, a constructed language taking vocabulary from several European languages. La politisation des langues régionales en France Nodyn:In lang, Hérodote, Philippe Blanchet, page 29, 2002/2 (N°105)
  8. Múgica, José Ignacio (1982-05-01). "El euskañol o el euskeranto" [Euskañol or euskeranto]. ABC (Madrid) (yn Sbaeneg). t. 19.
  9. Zuazo, Koldo (2008). Euskara normaltzeko bideak (PDF). Euskalgintza XXI. Mendeari Buruz. Euskaltzaindiaren nazioarteko XV. Biltzarra (yn Basque). Euskaltzaindia. tt. 3–13.CS1 maint: unrecognized language (link)